1. Ac ar ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar angel yn sefyll ar bedair congl y ddaear, yn dal pedwar gwynt y ddaear, fel na chwythai'r gwynt ar y ddaear, nac ar y môr, nac ar un pren.
2. Ac mi a welais angel arall yn dyfod i fyny oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo. Ac efe a lefodd â llef uchel ar y pedwar angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu'r ddaear a'r môr,
3. Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaear, na'r môr, na'r prennau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcennau.
4. Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd o holl lwythau meibion Israel.
5. O lwyth Jwda yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Reuben yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Gad yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.
6. O lwyth Aser yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Neffthali yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Manasses yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.
7. O lwyth Simeon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Lefi yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Issachar yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.
8. O lwyth Sabulon yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Joseff yr oedd deuddeng mil wedi eu selio. O lwyth Benjamin yr oedd deuddeng mil wedi eu selio.
9. Wedi hyn mi a edrychais; ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll gerbron yr orseddfainc, a cherbron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo;
10. Ac yn llefain â llef uchel, gan ddywedyd, Iachawdwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac i'r Oen.