Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 6:5-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.

6. Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a'r olew a'r gwin, na wna niwed iddynt.

7. A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl.

8. Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw'r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear.

9. A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.

10. A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?

11. A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.

12. Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a'r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a'r lleuad a aeth fel gwaed;

13. A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae'r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr.

14. A'r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o'u lleoedd.

15. A brenhinoedd y ddaear, a'r gwŷr mawr, a'r cyfoethogion, a'r pen-capteiniaid, a'r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau'r mynyddoedd;

16. Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen:

17. Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 6