A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.