Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 6:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o'r seliau, ac mi a glywais un o'r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl.

2. Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.

3. A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl.

4. Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a'r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.

5. A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a'r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law.

6. Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a'r olew a'r gwin, na wna niwed iddynt.

7. A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl.

8. Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw'r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear.

9. A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.

10. A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear?

11. A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a'u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 6