Hen Destament

Testament Newydd

Datguddiad 11:4-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Y rhai hyn yw'r ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll gerbron Duw'r ddaear.

5. Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy, ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae'n rhaid ei ladd ef.

6. Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau'r nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu proffwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, i'w troi hwynt yn waed, ac i daro'r ddaear â phob pla, cyn fynyched ag y mynnont.

7. A phan ddarfyddo iddynt orffen eu tystiolaeth, y bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r pwll diwaelod, a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u lladd hwynt.

8. A'u cyrff hwynt a orwedd ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysbrydol a elwir Sodom a'r Aifft; lle hefyd y croeshoeliwyd ein Harglwydd ni.

9. A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r cenhedloedd, a welant eu cyrff hwynt dridiau a hanner, ac ni oddefant roi eu cyrff hwy mewn beddau.

10. A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear a lawenychant o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion i'w gilydd; oblegid y ddau broffwyd hyn oedd yn poeni'r rhai oedd yn trigo ar y ddaear.

11. Ac ar ôl tridiau a hanner, Ysbryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy, a hwy a safasant ar eu traed; ac ofn mawr a syrthiodd ar y rhai a'u gwelodd hwynt.

12. A hwy a glywsant lef uchel o'r nef yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fyny yma. A hwy a aethant i fyny i'r nef mewn cwmwl; a'u gelynion a edrychasant arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Datguddiad 11