9. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â'i weithredoedd;
10. A gwisgo'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:
11. Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.
12. Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;
13. Gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.
14. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
15. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.
16. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.
17. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.
18. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
19. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.