Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Colosiaid 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.

2. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.

3. Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.

4. Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.

5. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd‐dod, yr hon sydd eilun‐addoliaeth:

6. O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod:

7. Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.

8. Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o'ch genau.

9. Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd â'i weithredoedd;

10. A gwisgo'r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creodd ef:

11. Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.

12. Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;

13. Gan gyd‐ddwyn â'ch gilydd, a maddau i'ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.

14. Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.

15. A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd y'ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.

16. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i'r Arglwydd.

17. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.

18. Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.

19. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.

20. Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.

21. Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.

22. Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i'ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad‐wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:

23. A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion;

24. Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu.

25. Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.