3. Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddïo drosoch chwi yn wastadol,
4. Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;
5. Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:
6. Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
7. Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gydâwas, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;
8. Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.
9. Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;
10. Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;
11. Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd;