9. A'r patrieirch, gan genfigennu, a werthasant Joseff i'r Aifft: ond yr oedd Duw gydag ef,
10. Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft; ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aifft, ac ar ei holl dŷ.
11. Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aifft a Chanaan, a gorthrymder mawr; a'n tadau ni chawsant luniaeth.
12. Ond pan glybu Jacob fod ŷd yn yr Aifft, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.
13. A'r ail waith yr adnabuwyd Joseff gan ei frodyr; a chenedl Joseff a aeth yn hysbys i Pharo.
14. Yna yr anfonodd Joseff, ac a gyrchodd ei dad Jacob, a'i holl genedl, pymtheg enaid a thrigain.
15. Felly yr aeth Jacob i waered i'r Aifft, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.
16. A hwy a symudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasai Abraham er arian gan feibion Emor tad Sichem.
17. A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasai Duw i Abraham, y bobl a gynyddodd ac a amlhaodd yn yr Aifft,
18. Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaenai mo Joseff.
19. Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel nad epilient.
20. Ar yr hwn amser y ganwyd Moses; ac efe oedd dlws i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn nhŷ ei dad.
21. Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharo a'i cyfododd ef i fyny, ac a'i magodd ef yn fab iddi ei hun.