Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 6:3-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Am hynny, frodyr, edrychwch yn eich plith am seithwyr da eu gair, yn llawn o'r Ysbryd Glân a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.

4. Eithr ni a barhawn mewn gweddi a gweinidogaeth y gair.

5. A bodlon fu'r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia:

6. Y rhai a osodasant hwy gerbron yr apostolion; ac wedi iddynt weddïo, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.

7. A gair Duw a gynyddodd; a rhifedi'r disgyblion yn Jerwsalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a ufuddhasant i'r ffydd.

8. Eithr Steffan, yn llawn ffydd a nerth, a wnaeth ryfeddodau ac arwyddion mawrion ymhlith y bobl.

9. Yna y cyfododd rhai o'r synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadlau â Steffan:

10. Ac ni allent wrthwynebu'r doethineb a'r ysbryd trwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 6