11. Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi'r adeiladwyr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.
12. Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roddi ymhlith dynion, trwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
13. A phan welsant hyfder Pedr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythrennog ac annysgedig oeddynt, hwy a ryfeddasant; a hwy a'u hadwaenent, eu bod hwy gyda'r Iesu.
14. Ac wrth weled y dyn a iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd yn erbyn hynny.
15. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgyngorasant â'i gilydd,
16. Gan ddywedyd, Beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hysbys i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerwsalem, ac nis gallwn ni ei wadu.
17. Eithr fel nas taener ymhellach ymhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn.
18. A hwy a'u galwasant hwynt, ac a orchmynasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddysgent yn enw yr Iesu.
19. Eithr Pedr ac Ioan a atebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw gerbron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi.
20. Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom ac a glywsom.
21. Eithr wedi eu bygwth ymhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cosbi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.
22. Canys yr oedd y dyn uwchlaw deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.