Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 3:12-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A phan welodd Pedr, efe a atebodd i'r bobl, Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sylw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun neu ein duwioldeb y gwnaethem i hwn rodio?

13. Duw Abraham, ac Isaac, a Jacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fab Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch gerbron Peilat, pan farnodd efe ef i'w ollwng yn rhydd.

14. Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog;

15. A Thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a gododd Duw o feirw; o'r hyn yr ydym ni yn dystion.

16. A'i enw ef, trwy ffydd yn ei enw ef, a nerthodd y dyn yma, a welwch ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon sydd trwyddo ef, a roes iddo ef yr holl iechyd hwn yn eich gŵydd chwi oll.

17. Ac yn awr, frodyr, mi a wn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.

18. Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dioddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.

19. Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y dileer eich pechodau, pan ddelo'r amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd;

20. Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi:

21. Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd Duw trwy enau ei holl sanctaidd broffwydi erioed.

22. Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Broffwyd o'ch brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddyweto wrthych.

23. A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Proffwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl.

24. A'r holl broffwydi hefyd, o Samuel ac o'r rhai wedi, cynifer ag a lefarasant, a ragfynegasant hefyd am y dyddiau hyn.

25. Chwychwi ydych blant y proffwydi, a'r cyfamod yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl dylwythau y ddaear.

26. Duw, gwedi cyfodi ei Fab Iesu a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi, trwy droi pob un ohonoch ymaith oddi wrth eich drygioni.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 3