Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 3:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pedr hefyd ac Ioan a aethant i fyny i'r deml ynghyd ar yr awr weddi, sef y nawfed.

2. A rhyw ŵr cloff o groth ei fam a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r deml.

3. Yr hwn, pan welodd efe Pedr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r deml, a ddeisyfodd gael elusen.

4. A Phedr yn dal sylw arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.

5. Ac efe a ddaliodd sylw arnynt, gan obeithio cael rhywbeth ganddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 3