Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 27:33-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.

34. Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.

35. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.

36. Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd.

37. Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.

38. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw'r gwenith allan i'r môr.

39. A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.

40. Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.

41. Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.

42. A chyngor y milwyr oedd, ladd y carcharorion, rhag i neb ohonynt nofio allan, a dianc ymaith.

43. Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan; ac a archodd i bawb a'r a fedrai nofio, ymfwrw yn gyntaf i'r môr, a myned allan i'r tir:

44. Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw ddrylliau o'r llong. Ac felly y digwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddihangol.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 27