Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 27:28-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

28. Ac wedi iddynt blymio, hwy a'i cawsant yn ugain gwryd: ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwryd.

29. Ac a hwy'n ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw pedair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfasant ei myned hi yn ddydd.

30. Ac fel yr oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bad i waered i'r môr, yn rhith bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,

31. Dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig.

32. Yna y torrodd y milwyr raffau'r bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith.

33. A thra ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymryd lluniaeth, gan ddywedyd, Heddiw yw y pedwerydd dydd ar ddeg yr ydych chwi yn disgwyl, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymryd dim.

34. Oherwydd paham yr ydwyf yn dymuno arnoch gymryd lluniaeth; oblegid hyn sydd er iechyd i chwi: canys blewyn i'r un ohonoch ni syrth oddi ar ei ben.

35. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gŵydd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.

36. Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gysurol; a hwy a gymerasant luniaeth hefyd.

37. Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac un ar bymtheg a thrigain o eneidiau.

38. Ac wedi eu digoni o luniaeth, hwy a ysgafnhasant y llong, gan fwrw'r gwenith allan i'r môr.

39. A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir: ond hwy a ganfuant ryw gilfach a glan iddi; i'r hon y cyngorasant, os gallent, wthio'r llong iddi.

40. Ac wedi iddynt godi'r angorau, hwy a ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.

41. Ac wedi i ni syrthio ar le deuforgyfarfod, hwy a wthiasant y llong: a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddiysgog; eithr y pen ôl a ymddatododd gan nerth y tonnau.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 27