Hen Destament

Testament Newydd

Actau'r Apostolion 13:26-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.

27. Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.

28. Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef.

29. Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a'r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a'i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.

30. Eithr Duw a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw:

31. Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.

32. Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi'r Iesu:

33. Megis ag yr ysgrifennwyd yn yr ail Salm, Fy Mab i ydwyt ti; myfi heddiw a'th genhedlais.

34. Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.

35. Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn Salm arall, Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth.

36. Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth:

37. Eithr yr hwn a gyfododd Duw, ni welodd lygredigaeth.

38. Am hynny bydded hysbys i chwi, ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau:

39. A thrwy hwn y cyfiawnheir pob un sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau y rhai ni allech trwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt.

40. Gwyliwch gan hynny na ddêl arnoch y peth a ddywedwyd yn y proffwydi;

41. Edrychwch, O ddirmygwyr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.

42. A phan aeth yr Iddewon allan o'r synagog, y Cenhedloedd a atolygasant gael pregethu'r geiriau hyn iddynt y Saboth nesaf.

43. Ac wedi gollwng y gynulleidfa, llawer o'r Iddewon ac o'r proselytiaid crefyddol a ganlynasant Paul a Barnabas; y rhai gan lefaru wrthynt, a gyngorasant iddynt aros yng ngras Duw.

44. A'r Saboth nesaf, yr holl ddinas agos a ddaeth ynghyd i wrando gair Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Actau'r Apostolion 13