23. O had hwn, Duw, yn ôl ei addewid, a gyfododd i Israel yr Iachawdwr Iesu:
24. Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25. Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, Pwy yr ydych chwi yn tybied fy mod i? Nid myfi yw efe: eithr wele, y mae un yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn nid wyf yn deilwng i ddatod esgidiau ei draed.
26. Ha wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iachawdwriaeth hon.
27. Canys y rhai oedd yn preswylio yn Jerwsalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y proffwydi y rhai a ddarllenid bob Saboth, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.
28. Ac er na chawsant ynddo ddim achos angau, hwy a ddymunasant ar Peilat ei ladd ef.
29. Ac wedi iddynt gwblhau pob peth a'r a ysgrifenasid amdano ef, hwy a'i disgynasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.
30. Eithr Duw a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw:
31. Yr hwn a welwyd dros ddyddiau lawer gan y rhai a ddaethant i fyny gydag ef o Galilea i Jerwsalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.
32. Ac yr ydym ni yn efengylu i chwi yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hon i ni eu plant hwy, gan iddo atgyfodi'r Iesu: