1. Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2. Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
3. Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
4. A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.
5. A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
6. Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Barāiesu;