1. Yr oedd hefyd yn yr eglwys ydoedd yn Antiochia, rai proffwydi ac athrawon; Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lwcius o Cyrene, a Manaen, brawdmaeth Herod y tetrarch, a Saul.
2. Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Ysbryd Glân, Neilltuwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
3. Yna, wedi iddynt ymprydio a gweddïo, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymaith.
4. A hwythau, wedi eu danfon ymaith gan yr Ysbryd Glân, a ddaethant i Seleucia; ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.
5. A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn synagogau yr Iddewon: ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
6. Ac wedi iddynt dramwy trwy'r ynys hyd Paffus, hwy a gawsant ryw swynwr, gau broffwyd o Iddew, a'i enw Bar‐iesu;
7. Yr hwn oedd gyda'r rhaglaw, Sergius Paulus, gŵr call: hwn, wedi galw ato Barnabas a Saul, a ddeisyfodd gael clywed gair Duw.
8. Eithr Elymas y swynwr, (canys felly y cyfieithir ei enw ef,) a'u gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyrdroi'r rhaglaw oddi wrth y ffydd.
9. Yna Saul, (yr hwn hefyd a elwir Paul,) yn llawn o'r Ysbryd Glân, a edrychodd yn graff arno ef,
10. Ac a ddywedodd, O gyflawn o bob twyll a phob ysgelerder, tydi mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, oni pheidi di â gŵyro union ffyrdd yr Arglwydd?