4. Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.
5. Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi?
6. Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.
7. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.
8. Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad:
9. Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,
10. A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.
11. Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:
12. Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.
13. Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:
14. I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15. Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni.
16. A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras,
17. A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.