Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 2 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yr ydym yn atolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, a'n cydgynulliad ninnau ato ef,

2. Na'ch sigler yn fuan oddi wrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer, na chan ysbryd, na chan air, na chan lythyr, megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Crist yn gyfagos.

3. Na thwylled neb chwi mewn un modd: oblegid ni ddaw'r dydd hwnnw hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datguddio'r dyn pechod, mab y golledigaeth;

4. Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymddyrchafu goruwch pob peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe, megis Duw, yn eistedd yn nheml Duw, ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.

5. Onid cof gennych chwi, pan oeddwn i eto gyda chwi, ddywedyd ohonof y pethau hyn i chwi?

6. Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn atal, fel y datguddier ef yn ei bryd ei hun.

7. Canys y mae dirgelwch yr anwiredd yn gweithio eisoes: yn unig yr hwn sydd yr awron yn atal, a etyl nes ei dynnu ymaith.

8. Ac yna y datguddir yr Anwir hwnnw, yr hwn a ddifetha'r Arglwydd ag ysbryd ei enau, ac a ddilea â disgleirdeb ei ddyfodiad:

9. Sef yr hwn y mae ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan, gyda phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,

10. A phob dichell anghyfiawnder yn y rhai colledig; am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.

11. Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:

12. Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.

13. Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw drosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth, trwy sancteiddiad yr Ysbryd, a ffydd i'r gwirionedd:

14. I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein hefengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.

15. Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddysgasoch, pa un bynnag ai trwy ymadrodd, ai trwy ein hepistol ni.

16. A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tad, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes inni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy ras,

17. A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhao ym mhob gair a gweithred dda.