Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3

Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 1 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paul, a Silfanus, a Thimotheus, at eglwys y Thesaloniaid, yn Nuw ein Tad, a'r Arglwydd Iesu Grist:

2. Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.

3. Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn mawr gynyddu, a chariad pob un ohonoch oll tuag at eich gilydd yn ychwanegu;

4. Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn eglwysi Duw, oherwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd yn eich holl erlidiau a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef:

5. Yr hyn sydd argoel golau o gyfiawn farn Duw, fel y'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef.

6. Canys cyfiawn yw gerbron Duw, dalu cystudd i'r rhai sydd yn eich cystuddio chwi;

7. Ac i chwithau, y rhai a gystuddir, esmwythdra gyda ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyda'i angylion nerthol,

8. A thân fflamllyd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:

9. Y rhai a ddioddefant yn gosbedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi gerbron yr Arglwydd, ac oddi wrth ogoniant ei gadernid ef;

10. Pan ddêl efe i'w ogoneddu yn ei saint, ac i fod yn rhyfeddol yn y rhai oll sydd yn credu, (oherwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysg chwi gael ei chredu,) yn y dydd hwnnw.

11. Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddïo yn wastadol drosoch, ar fod i'n Duw ni eich cyfrif chwi'n deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd ei ddaioni, a gwaith ffydd, yn nerthol:

12. Fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.