Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 2:2-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael amarch, fel y gwyddoch chwi, yn Philipi, ni a fuom hy yn ein Duw i lefaru wrthych chwi efengyl Duw trwy fawr ymdrech.

3. Canys ein cyngor ni nid oedd o hudoliaeth nac o aflendid, nac mewn twyll:

4. Eithr megis y'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr efengyl, felly yr ydym yn llefaru; nid megis yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.

5. Oblegid ni fuom ni un amser mewn ymadrodd gwenieithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod; Duw yn dyst:

6. Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na chennych chwi, na chan eraill; lle y gallasem bwyso arnoch, fel apostolion Crist.

7. Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysg chwi, megis mamaeth yn maethu ei phlant.

8. Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn unig efengyl Duw, ond ein heneidiau ein hunain hefyd, am eich bod yn annwyl gennym.

9. Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nos a dydd, fel na phwysem ar neb ohonoch, ni a bregethasom i chwi efengyl Duw.

10. Tystion ydych chwi, a Duw hefyd, mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyhoedd, yr ymddygasom yn eich mysg chwi y rhai ydych yn credu:

11. Megis y gwyddoch y modd y buom yn eich cynghori, ac yn eich cysuro, bob un ohonoch, fel tad ei blant ei hun,

12. Ac yn ymbil, ar rodio ohonoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi i'w deyrnas a'i ogoniant.

13. Oblegid hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddi-baid, oherwydd i chwi, pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid fel gair dyn, eithr fel y mae yn wir, yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol weithio ynoch chwi y rhai sydd yn credu.

14. Canys chwychwi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilynwyr i eglwysi Duw, y rhai yn Jwdea sydd yng Nghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cyd-genedl, megis hwythau gan yr Iddewon:

15. Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a'u proffwydi eu hunain, ac a'n herlidiasant ninnau ymaith; ac ydynt heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pob dyn;

16. Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, fel yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint Duw a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.

17. A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn amddifaid amdanoch dros ennyd awr, yng ngolwg, nid yng nghalon, a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 2