Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 5:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yr henuriaid sydd yn eich plith, atolwg iddynt yr ydwyf fi, yr hwn wyf gyd-henuriad, a thyst o ddioddefiadau Crist, yr hwn hefyd wyf gyfrannog o'r gogoniant a ddatguddir:

2. Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt; nid trwy gymell, eithr yn ewyllysgar; nid er mwyn budrelw, eithr o barodrwydd meddwl;

3. Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Duw, ond gan fod yn esamplau i'r praidd.

4. A phan ymddangoso'r Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.

5. Yr un ffunud yr ieuainc, byddwch ostyngedig i'r henuriaid. A byddwch bawb yn ostyngedig i'ch gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu'r beilchion, ac yn rhoddi gras i'r rhai gostyngedig.

6. Ymddarostyngwch gan hynny dan alluog law Duw, fel y'ch dyrchafo mewn amser cyfaddas:

7. Gan fwrw eich holl ofal arno ef; canys y mae efe yn gofalu drosoch chwi.

8. Byddwch sobr, gwyliwch: oblegid y mae eich gwrthwynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio'r neb a allo ei lyncu.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 5