Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 3:9-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.

10. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a'r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.

11. Oblegid hon yw'r genadwri a glywsoch o'r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.

12. Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda.

13. Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r byd yn eich casáu chwi.

14. Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru'r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.

15. Pob un a'r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.

17. Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

18. Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.

19. Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef.

20. Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth.

21. Anwylyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.

22. A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.

23. A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni.

24. A'r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe i ni.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 3