Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5

Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwelwch pa fath gariad a roes y Tad arnom, fel y'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y byd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.

2. Anwylyd, yr awr hon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ag y mae.

3. Ac y mae pob un sydd ganddo'r gobaith hwn ynddo ef, yn ei buro'i hun, megis y mae yntau yn bur.

4. Pob un a'r sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod.

5. A chwi a wyddoch ymddangos ohono ef, fel y dileai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.

6. Pob un a'r sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pob un a'r sydd yn pechu, nis gwelodd ef, ac nis adnabu ef.

7. O blant bychain, na thwylled neb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyfiawn, megis y mae yntau yn gyfiawn.

8. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae; canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad. I hyn yr ymddangosodd Mab Duw, fel y datodai weithredoedd diafol.

9. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei had ef yn aros ynddo ef: ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.

10. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: Pob un a'r sydd heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.

11. Oblegid hon yw'r genadwri a glywsoch o'r dechreuad; bod i ni garu ein gilydd.

12. Nid fel Cain, yr hwn oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd. A phaham y lladdodd ef? Oblegid bod ei weithredoedd ef yn ddrwg, a'r eiddo ei frawd yn dda.

13. Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r byd yn eich casáu chwi.

14. Nyni a wyddom ddarfod ein symud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bod yn caru'r brodyr. Yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.

15. Pob un a'r sydd yn casáu ei frawd, lleiddiad dyn yw: a chwi a wyddoch nad oes i un lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.

16. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi ohono ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes dros y brodyr.

17. Eithr yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef?

18. Fy mhlant bychain, na charwn ar air nac ar dafod yn unig, eithr mewn gweithred a gwirionedd.

19. Ac wrth hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y sicrhawn ein calonnau ger ei fron ef.

20. Oblegid os ein calon a'n condemnia, mwy yw Duw na'n calon, ac efe a ŵyr bob peth.

21. Anwylyd, os ein calon ni'n condemnia, y mae gennym hyder ar Dduw.

22. A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; oblegid ein bod yn cadw ei orchmynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sydd yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.

23. A hwn yw ei orchymyn ef; Gredu ohonom yn enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ein gilydd, megis y rhoes efe orchymyn i ni.

24. A'r hwn sydd yn cadw ei orchmynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod ef yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe i ni.