1. A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?
2. Oni wyddoch chwi y barna'r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu'r pethau lleiaf?
3. Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn?
4. Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.
5. Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?
6. Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai diāgred?