Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16

Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

2. Oni wyddoch chwi y barna'r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu'r pethau lleiaf?

3. Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn?

4. Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.

5. Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6. Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred?

7. Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â'ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?

8. Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i'r brodyr.

9. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,

10. Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

11. A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

12. Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni'm dygir i dan awdurdod gan ddim.

13. Y bwydydd i'r bol, a'r bol i'r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A'r corff nid yw i odineb, ond i'r Arglwydd; a'r Arglwydd i'r corff.

14. Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a'n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.

15. Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a'u gwneuthur yn aelodau putain? Na ato Duw.

16. Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.

17. Ond yr hwn a gysylltir â'r Arglwydd, un ysbryd yw.

18. Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i'w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

19. Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i'r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

20. Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.