Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 6:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

2. Oni wyddoch chwi y barna'r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu'r pethau lleiaf?

3. Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i'r bywyd hwn?

4. Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i'r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.

5. Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6. Ond bod brawd yn ymgyfreithio â brawd, a hynny gerbron y rhai di‐gred?

7. Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â'ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?

8. Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i'r brodyr.

9. Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godinebwyr, nac eilun‐addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,

10. Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 6