Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 91:8-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Yn unig ti a ganfyddi â'th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol.

9. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti;

10. Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.

11. Canys efe a orchymyn i'w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd.

12. Ar eu dwylo y'th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg.

13. Ar y llew a'r asb y cerddi: y cenau llew a'r ddraig a fethri.

14. Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw.

15. Efe a eilw arnaf, a mi a'i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef.

16. Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 91