Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 82:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe.

2. Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela.

3. Bernwch y tlawd a'r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a'r rheidus.

4. Gwaredwch y tlawd a'r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol.

5. Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o'u lle.

6. Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll.

7. Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o'r tywysogion y syrthiwch.

8. Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 82