41. Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.
42. Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.
43. Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:
44. Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.
45. Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.
46. Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.
47. Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.
48. Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.
49. Anfonodd arnynt gynddaredd ei lid, llidiowgrwydd, a dicter, a chyfyngder, trwy anfon angylion drwg.
50. Cymhwysodd ffordd i'w ddigofaint: nid ataliodd eu henaid oddi wrth angau; ond eu bywyd a roddodd efe i'r haint.
51. Trawodd hefyd bob cyntaf‐anedig yn yr Aifft; sef blaenion eu nerth hwynt ym mhebyll Ham:
52. Ond efe a yrrodd ei bobl ei hun fel defaid, ac a'u harweiniodd hwynt fel praidd yn yr anialwch.
53. Tywysodd hwynt hefyd yn ddiogel, fel nad ofnasant: a'r môr a orchuddiodd eu gelynion hwynt.
54. Hwythau a ddug efe i oror ei sancteiddrwydd; i'r mynydd hwn, a enillodd ei ddeheulaw ef.
55. Ac efe a yrrodd allan y cenhedloedd o'u blaen hwynt, ac a rannodd iddynt etifeddiaeth wrth linyn, ac a wnaeth i lwythau Israel drigo yn eu pebyll hwynt.
56. Er hynny temtiasant a digiasant Dduw Goruchaf, ac ni chadwasant ei dystiolaethau:
57. Eithr ciliasant a buant anffyddlon fel eu tadau: troesant fel bwa twyllodrus.