36. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:
37. A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?
41. Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.