Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 78:33-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

33. Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.

34. Pan laddai efe hwynt, hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.

35. Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.

36. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:

37. A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.

38. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.

39. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.

40. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?

41. Ie, troesant a phrofasant Dduw, ac a osodasant derfyn i Sanct yr Israel.

42. Ni chofiasant ei law ef, na'r dydd y gwaredodd efe hwynt oddi wrth y gelyn.

43. Fel y gosodasai efe ei arwyddion yn yr Aifft, a'i ryfeddodau ym maes Soan:

44. Ac y troesai eu hafonydd yn waed; a'u ffrydiau, fel na allent yfed.

45. Anfonodd gymysgbla yn eu plith, yr hon a'u difaodd hwynt; a llyffaint i'w difetha.

46. Ac efe a roddodd eu cnwd hwynt i'r lindys, a'u llafur i'r locust.

47. Distrywiodd eu gwinwydd â chenllysg, a'u sycamorwydd â rhew.

48. Rhoddodd hefyd eu hanifeiliaid i'r cenllysg, a'u golud i'r mellt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 78