24. A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25. Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26. Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.
27. Glawiodd hefyd gig arnynt fel llwch, ac adar asgellog fel tywod y môr.
28. Ac a wnaeth iddynt gwympo o fewn eu gwersyll, o amgylch eu preswylfeydd.
29. Felly y bwytasant, ac y llwyr ddiwallwyd hwynt; ac efe a barodd eu dymuniad iddynt;
30. Ni omeddwyd hwynt o'r hyn a flysiasant: er hynny, tra yr ydoedd eu bwyd yn eu safnau,
31. Dicllonedd Duw a gyneuodd yn eu herbyn hwynt, ac a laddodd y rhai brasaf ohonynt, ac a gwympodd etholedigion Israel.
32. Er hyn oll pechasant eto, ac ni chredasant i'w ryfeddodau ef.
33. Am hynny y treuliodd efe eu dyddiau hwynt mewn oferedd, a'u blynyddoedd mewn dychryn.
34. Pan laddai efe hwynt, hwy a'i ceisient ef, ac a ddychwelent, ac a geisient Dduw yn fore.
35. Cofient hefyd mai Duw oedd eu Craig, ac mai y Goruchaf Dduw oedd eu Gwaredydd.
36. Er hynny, rhagrithio yr oeddynt iddo ef â'u genau, a dywedyd celwydd wrtho â'u tafod:
37. A'u calon heb fod yn uniawn gydag ef, na'u bod yn ffyddlon yn ei gyfamod ef.
38. Er hynny efe yn drugarog a faddeuodd eu hanwiredd, ac ni ddifethodd hwynt: ie, trodd ymaith ei ddigofaint yn fynych, ac ni chyffrôdd ei holl lid.
39. Canys efe a gofiai mai cnawd oeddynt, a gwynt yn myned, ac heb ddychwelyd.
40. Pa sawl gwaith y digiasant ef yn yr anialwch, ac y gofidiasant ef yn y diffeithwch?