16. Canys efe a ddug ffrydiau allan o'r graig, ac a dynnodd i lawr megis afonydd o ddyfroedd.
17. Er hynny chwanegasant eto bechu yn ei erbyn ef, gan ddigio y Goruchaf yn y diffeithwch.
18. A themtiasant Dduw yn eu calon, gan ofyn bwyd wrth eu blys.
19. Llefarasant hefyd yn erbyn Duw; dywedasant, A ddichon Duw arlwyo bwrdd yn yr anialwch?
20. Wele, efe a drawodd y graig, fel y pistyllodd dwfr, ac y llifodd afonydd; a ddichon efe roddi bara hefyd? a ddarpara efe gig i'w bobl?
21. Am hynny y clybu yr Arglwydd, ac y digiodd: a thân a enynnodd yn erbyn Jacob, a digofaint hefyd a gyneuodd yn erbyn Israel;
22. Am na chredent yn Nuw, ac na obeithient yn ei iachawdwriaeth ef:
23. Er iddo ef orchymyn i'r wybrennau oddi uchod, ac agoryd drysau y nefoedd,
24. A glawio manna arnynt i'w fwyta, a rhoddi iddynt ŷd y nefoedd.
25. Dyn a fwytaodd fara angylion: anfonodd iddynt fwyd yn ddigonol.
26. Gyrrodd y dwyreinwynt yn y nefoedd; ac yn ei nerth y dug efe ddeheuwynt.