8. Dywedasant yn eu calonnau, Cydanrheithiwn hwynt: llosgasant holl synagogau Duw yn y tir.
9. Ni welwn ein harwyddion: nid oes broffwyd mwy, nid oes gennym a ŵyr pa hyd.
10. Pa hyd, Dduw, y gwarthrudda y gwrthwynebwr? a gabla y gelyn dy enw yn dragywydd?
11. Paham y tynni yn ei hôl dy law, sef dy ddeheulaw? tyn hi allan o ganol dy fynwes.
12. Canys Duw yw fy Mrenin o'r dechreuad, gwneuthurwr iachawdwriaeth o fewn y tir.
13. Ti yn dy nerth a berthaist y môr: drylliaist bennau dreigiau yn y dyfroedd.
14. Ti a ddrylliaist ben lefiathan; rhoddaist ef yn fwyd i'r bobl yn yr anialwch.
15. Ti a holltaist y ffynnon a'r afon; ti a ddihysbyddaist afonydd cryfion.
16. Y dydd sydd eiddot ti, y nos hefyd sydd eiddot ti: ti a baratoaist oleuni a haul.
17. Ti a osodaist holl derfynau y ddaear: ti a luniaist haf a gaeaf.
18. Cofia hyn, i'r gelyn gablu, O Arglwydd, ac i'r bobl ynfyd ddifenwi dy enw.
19. Na ddyro enaid dy durtur i gynulleidfa y gelynion: nac anghofia gynulleidfa dy drueiniaid byth.