Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 73:6-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn.

7. Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth.

8. Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel.

9. Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a'u tafod a gerdd trwy y ddaear.

10. Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 73