1. O Dduw, dod i'r Brenin dy farnedigaethau, ac i fab y Brenin dy gyfiawnder.
2. Efe a farn dy bobl mewn cyfiawnder, a'th drueiniaid â barn.
3. Y mynyddoedd a ddygant heddwch i'r bobl, a'r bryniau, trwy gyfiawnder.
4. Efe a farn drueiniaid y bobl, efe a achub feibion yr anghenus, ac a ddryllia y gorthrymydd.