Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 60:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Gwnaethost i'r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu.

3. Dangosaist i'th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod.

4. Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela.

5. Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.

6. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.

7. Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr.

8. Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o'm plegid i.

9. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm harwain hyd yn Edom?

10. Onid tydi, Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda'n lluoedd?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 60