Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 52:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Paham yr ymffrosti mewn drygioni, O gadarn? y mae trugaredd Duw yn parhau yn wastadol.

2. Dy dafod a ddychymyg ysgelerder; fel ellyn llym, yn gwneuthur twyll.

3. Hoffaist ddrygioni yn fwy na daioni; a chelwydd yn fwy na thraethu cyfiawnder. Sela.

4. Hoffaist bob geiriau distryw, O dafod twyllodrus.

5. Duw a'th ddistrywia dithau yn dragywydd: efe a'th gipia di ymaith, ac a'th dynn allan o'th babell, ac a'th ddiwreiddia o dir y rhai byw. Sela.

6. Y cyfiawn hefyd a welant, ac a ofnant, ac a chwarddant am ei ben.

7. Wele y gŵr ni osododd Dduw yn gadernid iddo; eithr ymddiriedodd yn lluosowgrwydd ei olud, ac a ymnerthodd yn ei ddrygioni.

8. Ond myfi sydd fel olewydden werdd yn nhŷ Dduw: ymddiriedaf yn nhrugaredd Duw byth ac yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 52