Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 51:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Glanha fi ag isop, a mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.

8. Pâr i mi glywed gorfoledd a llawenydd; fel y llawenycho yr esgyrn a ddrylliaist.

9. Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau, a dilea fy holl anwireddau.

10. Crea galon lân ynof, O Dduw; ac adnewydda ysbryd uniawn o'm mewn.

11. Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymer dy ysbryd sanctaidd oddi wrthyf.

12. Dyro drachefn i mi orfoledd dy iachawdwriaeth; ac â'th hael ysbryd cynnal fi.

13. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.

14. Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.

15. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.

16. Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.

17. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.

18. Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.

19. Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 51