13. Yna y dysgaf dy ffyrdd i rai anwir; a phechaduriaid a droir atat.
14. Gwared fi oddi wrth waed, O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
15. Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
16. Canys ni chwenychi aberth; pe amgen, mi a'i rhoddwn: poethoffrwm ni fynni.
17. Aberthau Duw ydynt ysbryd drylliedig: calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi.
18. Gwna ddaioni yn dy ewyllysgarwch i Seion: adeilada furiau Jerwsalem.
19. Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boethoffrwm ac aberth llosg: yna yr offrymant fustych ar dy allor.