Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 38:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd.

2. Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a'th law yn drom arnaf.

3. Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i'm hesgyrn, oblegid fy mhechod.

4. Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi.

5. Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 38