9. A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.
10. Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hysbeilio?
11. Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.
12. Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.
13. A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â'm gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.
14. Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.
15. Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.
16. Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.