Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 35:5-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. Byddant fel us o flaen y gwynt: ac angel yr Arglwydd yn eu herlid.

6. Bydded eu ffordd yn dywyllwch ac yn llithrigfa: ac angel yr Arglwydd yn eu hymlid.

7. Canys heb achos y cuddiasant eu rhwyd i mi mewn pydew, yr hwn heb achos a gloddiasant i'm henaid.

8. Deued arno ddistryw ni wypo; a'i rwyd yr hon a guddiodd, a'i dalio: syrthied yn y distryw hwnnw.

9. A llawenycha fy enaid i yn yr Arglwydd: efe a ymhyfryda yn ei iachawdwriaeth ef.

10. Fy holl esgyrn a ddywedant, O Arglwydd, pwy sydd fel tydi, yn gwaredu y tlawd rhag yr hwn a fyddo drech nag ef: y truan hefyd a'r tlawd, rhag y neb a'i hysbeilio?

11. Tystion gau a gyfodasant: holasant i mi yr hyn nis gwn oddi wrtho.

12. Talasant i mi ddrwg dros dda, i ysbeilio fy enaid.

13. A minnau, pan glafychent hwy, oeddwn â'm gwisg o sachlen: gostyngais fy enaid ag ympryd, a'm gweddi a ddychwelodd i'm mynwes fy hun.

14. Ymddygais fel pe buasai yn gyfaill, neu yn frawd i mi: ymostyngais mewn galarwisg, fel un yn galaru am ei fam.

15. Ond ymlawenhasant hwy yn fy adfyd i, ac ymgasglasant; ie, ymgasglodd efryddion yn fy erbyn, ac nis gwyddwn; rhwygasant fi, ac ni pheidient.

16. Ymysg y gwatwarwyr rhagrithiol mewn gwleddoedd, ysgyrnygasant eu dannedd arnaf.

17. Arglwydd, pa hyd yr edrychi di ar hyn? gwared fy enaid rhag eu distryw hwynt, fy unig enaid rhag y llewod.

18. Mi a'th glodforaf yn y gynulleidfa fawr: moliannaf di ymhlith pobl lawer.

19. Na lawenychant o'm herwydd y rhai sydd elynion i mi heb achos: y sawl a'm casânt yn ddiachos, nac amneidiant â llygad.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 35