Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 30:6-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac mi a ddywedais yn fy llwyddiant, Ni'm syflir yn dragywydd.

7. O'th ddaioni, Arglwydd, y gosodaist gryfder yn fy mynydd: cuddiaist dy wyneb, a bûm helbulus.

8. Arnat ti, Arglwydd, y llefais, ac â'r Arglwydd yr ymbiliais.

9. Pa fudd sydd yn fy ngwaed, pan ddisgynnwyf i'r ffos? a glodfora y llwch di? a fynega efe dy wirionedd?

10. Clyw, Arglwydd, a thrugarha wrthyf: Arglwydd, bydd gynorthwywr i mi.

11. Troaist fy ngalar yn llawenydd i mi: diosgaist fy sachwisg, a gwregysaist fi â llawenydd;

12. Fel y cano fy ngogoniant i ti, ac na thawo. O Arglwydd fy Nuw, yn dragwyddol y'th foliannaf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 30