Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 29:2-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Moeswch i'r Arglwydd ogoniant ei enw: addolwch yr Arglwydd ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd.

3. Llef yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd: Duw y gogoniant a darana; yr Arglwydd sydd ar y dyfroedd mawrion.

4. Llef yr Arglwydd sydd mewn grym: llef yr Arglwydd sydd mewn prydferthwch.

5. Llef yr Arglwydd sydd yn dryllio y cedrwydd: ie, dryllia yr Arglwydd gedrwydd Libanus.

6. Efe a wna iddynt lamu fel llo; Libanus a Sirion fel llwdn unicorn.

7. Llef yr Arglwydd a wasgara y fflamau tân.

8. Llef yr Arglwydd a wna i'r anialwch grynu: yr Arglwydd a wna i anialwch Cades grynu.

9. Llef yr Arglwydd a wna i'r ewigod lydnu, ac a ddinoetha y coedydd: ac yn ei deml pawb a draetha ei ogoniant ef.

10. Yr Arglwydd sydd yn eistedd ar y llifeiriant; ie, yr Arglwydd a eistedd yn Frenin yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 29