Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 146:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd.

2. Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.

3. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.

4. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i'w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.

5. Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw:

6. Yr hwn a wnaeth nefoedd a daear, y môr, a'r hyn oll y sydd ynddynt: yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd:

7. Yr hwn sydd yn gwneuthur barn i'r rhai gorthrymedig, yn rhoddi bara i'r newynog. Yr Arglwydd sydd yn gollwng y carcharorion yn rhydd.

8. Yr Arglwydd sydd yn agoryd llygaid y deillion: yr Arglwydd sydd yn codi y rhai a ddarostyngwyd: yr Arglwydd sydd yn hoffi y rhai cyfiawn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 146