1. Molwch yr Arglwydd. Fy enaid, mola di yr Arglwydd.
2. Molaf yr Arglwydd yn fy myw: canaf i'm Duw tra fyddwyf.
3. Na hyderwch ar dywysogion, nac ar fab dyn, yr hwn nid oes iachawdwriaeth ynddo.
4. Ei anadl a â allan, efe a ddychwel i'w ddaear: y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef.
5. Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymorth iddo, sydd â'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw: